Communities 2.0

Hafan

Communities 2.0

Clicio.Cysylltu.Darganfod.

Mae technoleg ddigidol, fel ffonau symudol, cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd, yn dod yn rhan bwysig o’n bywydau bob dydd. Fodd bynnag, mae yna lawer o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru sy’n colli allan ar fanteision technoleg newydd.

Un o brosiectau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau 2.0, a’i nod yw cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg. Rydym am chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg, gan ysbrydoli pobl, meithrin hyder a chreu cyfleoedd.



Ydych chi’n grŵp cymunedol?

Dysgwch sut y gallwn ni helpu mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, partneriaethau lleol a grwpiau eraill nad oes ganddynt gyfansoddiad.

Ydych chi’n fenter gymdeithasol?

Dysgwch sut y gallwn ni helpu mentrau cydweithredol, busnesau cymunedol a busnesau eraill sy’n masnachu er budd cymdeithasol.

Clicio.Cysylltu.Darganfod.

Gwyliwch ein fideo sy’n dangos sut y gall technoleg wella bywydau a chyfleoedd mewn bywyd.


Hafan