Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.
Un o raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw, ac mae’n cael ei ddarparu gan bum mudiad sy’n bartneriaid - Canolfan Cydweithredol Cymru, Grŵp Novas Scarman, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chanolfan Adrodd Storïau Ewart Evans ym Mhrifysgol Morgannwg.
Mae llawer o’r cyllid ar gyfer Cymunedau 2.0 wedi dod o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Ein Partneriaid
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn cynnig gwasanaethau cymorth ar gyfer mentrau cymdeithasol ers 25 mlynedd a mwy ac wedi darparu’r cynllun digidol Cymunedau @Ei Gilydd. Drwy ddarparu gwasanaethau sy’n cysylltu cynhwysiant digidol a gweithgarwch sy’n cefnogi mentrau cymdeithasol, bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn mynd ati mewn ffordd integredig i gyflwyno Cymunedau 2.0.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin (ccclogo.gif) yn darparu gwasanaethau cefnogi busnesau a chynhwysiant digidol yn Sir Gaerfyrddin yn ystod cyfnod prosiect Cymunedau 2.0. Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn arwain ar gynlluniau i gysylltu cymunedau â gwasanaethau’r llywodraeth (e-Lywodraeth) mewn ffordd ddigidol.
Bydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn dod ag arbenigedd technegol ym maes Technoleg Gwybodaeth i Cymunedau 2.0. Ei rôl allweddol fydd datblygu ac ymestyn y gwasanaeth ‘Cylchredwyr Technoleg ’ yn ogystal â chynnig hyfforddiant a gwasanaethau technegol eraill.
Bydd Grŵp Novas Scarman yn cynnig cymorth o ran cynhwysiant digidol a datblygu mentrau cymdeithasol a chymunedol yn ehangach. Mae ganddo sgiliau penodol i weithio gyda’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac anodd eu cyrraedd, megis pobl ddigartref, pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio.
Mae Prifysgol Morgannwg yn gysylltiedig â Cymunedau 2.0 drwy gyfrwng Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, sy’n rhan o gyfadran y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol. Bydd y Ganolfan yn datblygu ‘canolfan ragoriaeth’ yng nghyswllt adrodd storïau digidol a'r cyfryngau creadigol ac yn darparu hyfforddiant a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y gymuned.