Communities 2.0

Eich cwestiynau

Communities 2.0

Eich cwestiynau

Beth yw technoleg ddigidol?

Mae technoleg ddigidol yn cynnwys cyfrifiaduron, y rhyngrwyd, ffonau symudol, radio a theledu digidol a chamerâu digidol. Mae arnom eisiau helpu pobl i gael budd o’r technolegau hyn.

Beth yw cynhwysiant digidol?

Mae mwy a mwy o bobl yn cael budd o dechnoleg ddigidol. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl gan nad ydynt yn gallu cael mynediad at dechnoleg ddigidol, gan nad yw'r sgiliau ganddynt, neu gan nad ydynt yn gweld y pwynt. Mae cynhwysiant digidol yn golygu gwneud yn siŵr nad oes neb yn cael ei eithrio rhag defnyddio technoleg ddigidol.

Bacia at briga

Pam mae cynhwysiant digidol yn bwysig?

Bydd annog mwy o bobl Cymru i ddefnyddio technoleg yn arwain at fuddion pwysig.

I unigolion, mae’n golygu y gallant gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ennill sgiliau ym myd gwaith, defnyddio gwasanaethau’r llywodraeth, dod o hyd i wybodaeth a chwilio am gynnyrch a gwasanaethau rhatach. Gall agor byd newydd sy’n llawn cyfleoedd i bobl anabl, i bobl sydd ar incwm isel neu’r rheini sydd ar gyrion cymdeithas.

I grwpiau a busnesau, gall eu helpu i redeg yn fwy effeithlon, i rannu gwybodaeth ac i ddenu cwsmeriaid neu aelodau newydd.

O ran Cymru’n gyffredinol, mae arnom angen pobl â sgiliau TGCh i gyfrannu at economi lewyrchus ac at adfywio ein cymunedau. Drwy roi hwb i’n hyder a’n sgiliau ym maes technoleg, byddwn yn fwy abl fel cenedl.

Bacia at briga

Rwy’n ymwneud â grŵp cymunedol – a ydym yn gymwys i gael cymorth?

Cliciwch yma i weld ein meini prawf cymhwysedd neu ffoniwch ni ar 0845 474 8282.

Rwy’n ymwneud â menter gymdeithasol – a ydym yn gymwys i gael cymorth?

Cliciwch yma i weld ein meini prawf cymhwysedd neu ffoniwch ni ar 0845 474 8282.

 

Nid wyf yn ymwneud â grŵp cymunedol na menter gymdeithasol –
sut alla i gefnogi cynhwysiant digidol?

Byddem wrth ein boddau’n clywed gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, asiantaethau menter, cyrff ymbarél cenedlaethol, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a busnesau preifat. Yn ogystal â hyrwyddo Cymunedau 2.0 i grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, efallai fod gennych syniadau, arbenigedd ac adnoddau i gyfrannu at gynlluniau cynhwysiant digidol. Cysylltwch â ni drwy ffonio 0845 474 8282.

Beth os nad yw fy mudiad mewn ardal gymwys?

Ffoniwch ni ar 0845 474 8282 ac fe wnawn ein gorau i’ch rhoi ar y trywydd iawn i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal chi.

Allwch chi roi cyllid i ni?

Nid cronfa grantiau yw Cymunedau 2.0 ond efallai y gallwn ddarparu cyllid mewn rhai amgylchiadau. Siaradwch ag aelod o’n tîm i gael gwybod a ydych yn gymwys.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn arall, ffoniwch Zoe Jackson neu Rachael Davies ar 0845 474 8282.

Bacia at briga



Clicio.Cysylltu. Darganfod.

Gwyliwch ein fideo sy’n dangos sut y gall technoleg wella bywydau a chyfleoedd mewn bywyd.

Grwpiau Cymunedol

Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.


Hafan