Communities 2.0

Grwpiau Cymunedol

Communities 2.0

Grwpiau Cymunedol

A man taking a photo

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.

Os oes angen cymorth ar eich grŵp i ddefnyddio technoleg, gallwch ddod atom ni am gymorth. Sefydlu gwefan? Prynu cyfrifiadur? Ddim yn siŵr sut mae gwneud rhywbeth ar eich cyfrifiadur? Gallwn eich cynorthwyo naill ai wyneb yn wyneb neu drwy gyfrwng ein llinell gymorth.

Ond efallai fod eich grŵp am wneud mwy na hynny? Efallai fod arnoch eisiau helpu mwy o bobl yn eich cymuned i elwa o dechnoleg. Os oes gennych syniad i annog pobl yn eich ardal i ddefnyddio technoleg, fe wnawn eich helpu gyda phecyn cymorth a allai gynnwys;

  • Cyngor i siapio eich syniad
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â phobl sydd â syniadau tebyg a'ch cyflwyno i bartneriaid posib
  • Cyfleoedd hyfforddi a mentora er mwyn dysgu sgiliau hanfodol
  • Cymorth ymarferol i ddatrys problemau technegol
  • Help i ddod o hyd i gymorth ychwanegol gan asiantaethau eraill
  • Cymorth ariannol

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael ein cymorth

Byddem hefyd wrth ein boddau’n clywed gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, asiantaethau menter, cyrff ymbarél cenedlaethol, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a busnesau preifat. Yn ogystal â hyrwyddo Cymunedau 2.0 i grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, efallai fod gennych syniadau, arbenigedd ac adnoddau i gyfrannu at gynlluniau cynhwysiant digidol yn genedlaethol neu yn eich ardal chi.

Enghreifftiau

Mentro Allan
Rydym wedi darparu pedair sesiwn blasu undydd mewn ffotograffiaeth ddigidol yn yr awyr agored gyda grŵp o bobl hŷn gyda phroblemau iechyd meddwl. Rydym hefyd wedi gweithio gyda’r grŵp er mwyn cyflwyno straeon digidol i’w gweithgareddau.

Cole Court
Rydym yn cynnal “Bore Coffi TGCh” wythnosol wedi’i anelu at drigolion dros 50 i arddangos sgiliau cyfrifiadurol a sgiliau rhyngrwyd. Rydym wedi galluogi trigolion i chwilio am bethau ar y we, creu cyfrif e-bost a’i ddefnyddio, a manteisio ar wefannau cymharu prisiau.

Darparwyr Eiriolaeth Iechyd Meddwl
Rydym wedi cynnal adolygiad o’r seilwaith a’r systemau TGCh presennol a nodwyd bod angen datblygu cronfa ddata y gellir cael mynediad ati o bell fel bo Gweithwyr Achos yn gallu cael gwybodaeth am atgyfeiriadau pan fyddant allan yn y maes.

 

Prosiect Cymunedol a Phobl Ifanc Aberfan ac Ynysowen
Rydym wedi darparu cyrsiau Adeiladu Cyfrifiaduron gyda staff a gwirfoddolwyr. Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn cynnal a chadw Gweinydd Windows 2003 gyda chyfeiriadur gweithredol, gwasanaeth rheoli defnyddwyr a system ddiogelwch.
 



Grwpiau Cymunedol

Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.


Hafan