Communities 2.0

Polisi Preifatrwydd

Communities 2.0

Preifatrwydd

Annwyl Ddefnyddiwr,

Diben y wefan hon yw darparu gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan Cymunedau 2.0. Mae gwefan Cymunedau 2.0 yn cael ei rheoli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd ar-lein. Mae’r datganiad hwn yn nodi ein Polisi Preifatrwydd ac yn egluro beth yr ydym yn ei wneud â’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu oddi wrth ein defnyddwyr. Darllenwch yr wybodaeth isod i ddeall ein safbwyntiau a’n harferion o ran gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch preifatrwydd ar y wefan hon, anfonwch e-bost i Catherine Evans, Rheolwr Marchnata.

Adrodd ar Weithgarwch ar y We

Rydym yn defnyddio ‘Google Analytics’ i fonitro'r defnydd o'r wefan. Mae’r rhaglen hon yn cofnodi’ch cyfeiriad IP, y math o borwr a dyddiad ac amser y gweithgarwch. Nid oes unrhyw gyswllt rhwng yr wybodaeth honno a data sy’n dangos pwy ydych (fel cyfeiriad e-bost). Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddadansoddi’r ymweliadau â’n tudalennau’n gyffredinol a’r gweithgarwch gan atgyfeirwyr er mwyn cael syniad o’r patrymau traffig ac effeithlonrwydd o ran lleoli.

Pa wybodaeth arall amdanoch yr ydym yn ei chasglu?

O bryd i’w gilydd, gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun (e.e. enw a chyfeiriad e-bost) er mwyn derbyn neu ddefnyddio gwasanaethau ar ein gwefan. Mae gwasanaethau o’r fath yn cynnwys cylchlythyrau.

Yn amlwg, gorau po fwyaf y byddwn yn gwybod amdanoch fel y gallwn addasu ein gwasanaethau i fodloni’ch anghenion, ond yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu a’i defnyddio fydd y leiaf posib y bydd ei hangen i ddarparu, datblygu a gwella ein gwasanaethau ar eich cyfer, ac mae hynny’n cynnwys rhoi gwybod i chi am wasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd eraill.

Ni fydd yr wybodaeth a gofnodir amdanoch yn cael ei rhentu na’i darparu i unrhyw fusnes neu gorff arall heblaw Canolfan Cydweithredol Cymru.

Cylchlythyrau

Ni fyddwn yn anfon unrhyw gylchlythyrau atoch dros e-bost ar unrhyw adeg oni bai eich bod wedi dewis eu derbyn yn benodol.

Byddwn hefyd yn cynnwys tywysyddion gwe (a elwir hefyd yn GIFs clir neu’n fygiau gwe) yn ein negeseuon e-bost i dracio llwyddiant ein hymgyrchoedd marchnata. Mae hynny’n golygu, os byddwch yn agor neges e-bost oddi wrthym, y byddwn yn gallu gweld dyddiad ac amser y gweithgarwch hwnnw, ac os cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni yn y cylchlythyr, y byddwn yn cofnodi’r tudalennau ar ein gwefan y byddwch yn mynd atynt.

Mae pob neges e-bost a anfonir yn cynnwys dull hawdd, awtomataidd i atal unrhyw negeseuon e-bost pellach oddi wrthym, neu i newid diddordeb yr ydych wedi’i fynegi. Os ydych am wneud hynny, nid oes ond rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar waelod pob neges e-bost.



Grwpiau Cymunedol

Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.


Hafan