Communities 2.0

Telerau ac Amodau

Communities 2.0

Telerau ac Amodau

Mae gwefan Cymunedau 2.0 yn cael ei rheoli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Ein nod yw cadw’r wybodaeth ar y safle mor gyfredol, mor gywir ac mor gyflawn ag y bo modd. Er hynny, nid yw Canolfan Cydweithredol Cymru, awduron y cynnwys, unrhyw rai sy’n gysylltiedig â hwy, eu partneriaid, eu cyfarwyddwyr, eu gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn gwneud unrhyw ddatganiadau nac yn rhoi unrhyw warantau o unrhyw fath, yn benodol neu’n oblygedig (ac maent yn ymwrthod yn bendant â hwy), mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd neu anallu i wneud defnydd o’r wybodaeth, y cynnwys, neu’r deunydd arall sydd wedi’u cynnwys yn y wefan hon.

Ni fyddwn yn gyfrifol ychwaith am unrhyw ddifrod neu golled sy’n gysylltiedig ag amseroldeb, cywirdeb neu gyfanrwydd yr wybodaeth, y gwasanaethau, y cynhyrchion, neu unrhyw ddeunydd arall ar y wefan hon.

Ni fydd Canolfan Cydweithredol Cymru, awduron y cynnwys, unrhyw rai sy’n gysylltiedig â hwy, eu partneriaid, eu cyfarwyddwyr, eu gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn atebol dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw ganlyniad sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag unrhyw weithred neu anwaith a gyflawnwch ar sail yr wybodaeth, y gwasanaethau neu unrhyw ddeunydd arall ar y wefan hon.

Mae ymwelwyr sy’n defnyddio’r wefan hon ac yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth yn gwneud hynny ar eu menter eu hun.

Nid yw Canolfan Cydweithredol Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau cysylltiedig ac ni ddylid cymryd bod dolenni’n dangos cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni atynt.

Ac eithrio fel y nodir yn benodol ar y wefan hon, i’r graddau mwyaf a ganiateir dan y gyfraith, ni fydd Canolfan Cydweithredol Cymru, nac unrhyw rai sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan, ei phartneriaid, ei chyfarwyddwyr, ei gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn atebol i dalu iawndal sy’n codi mewn cysylltiad â neu o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan hon neu’r wybodaeth, y cynnwys, y deunyddiau neu’r cynhyrchion sydd wedi’u cynnwys ynddi.

Cyfyngiad cynhwysfawr ar atebolrwydd yw hwn sy’n gymwys i iawndal o bob math, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt), iawndal ad-daliadol, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu ddifrod i eiddo a hawliadau gan drydydd parti.



Grwpiau Cymunedol

Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.


Hafan