Communities 2.0

Menter Gymdeithasol

Communities 2.0

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.

Sefydlu gwefan? Prynu cyfrifiadur? Ddim yn siŵr sut mae gwneud rhywbeth ar eich cyfrifiadur? Gallwn eich cynorthwyo naill ai wyneb yn wyneb neu drwy gyfrwng ein llinell gymorth.

Prynu cyfrifiadur?

Ond efallai fod eich busnes am wneud mwy na hynny? Efallai eich bod am ddod o hyd i gwsmeriaid newydd, am ddechrau masnachu ar-lein neu ddatblygu gwasanaeth newydd. Os oes gennych syniad i ehangu eich menter gymdeithasol neu i’w gwneud yn fwy cynaliadwy drwy ddefnyddio technoleg, fe wnawn eich helpu gyda phecyn cymorth a allai gynnwys;

  • Cyngor i siapio eich syniad
  • Cyfleoedd hyfforddi a mentora er mwyn dysgu sgiliau hanfodol
  • Cymorth ymarferol i ddatrys problemau technegol
  • Help i ddod o hyd i gymorth ychwanegol gan asiantaethau eraill
  • Cymorth ariannol

 

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth.

Enghreifftiau

We carried out an ICT review of Zoom Cymru in Merthyr Tydfil, to help them expand their young people's film and media development programme to other areas.

Rydym yn helpu Seibercofis yng Nghaernarfon i ddatblygu eu prosiect peilot ar gyfer mynediad at Dechnoleg Gwybodaeth ac ailgylchu cyfrifiaduron a fydd yn fanteisiol i’r gymuned leol.

 

Rydym yn gweithio gyda menter gymdeithasol Hyfforddiant ByteBack yn Llandudno, sy’n ail-fuddsoddi’r elw a ddaw o hyfforddiant cyfrifiadurol masnachol mewn cyrsiau 'agored' rhad ac am ddim a gynigir i drigolion lleol.

Rydym yn gweithio gyda Promo Cymru i gefnogi'r modd y maent yn datblygu ac yn defnyddio Institiwt Glyn Ebwy fel canolfan a lleoliad ar gyfer diwydiannau creadigol.



Grwpiau Cymunedol

Mae Cymunedau 2.0 yn brosiect sy’n cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg.

Menter Gymdeithasol

Os ydych chi’n dymuno gwneud rhywbeth, a’ch bod yn meddwl y gallai technoleg ddigidol eich helpu i wneud hynny’n well, byddem yn hoffi clywed gennych.


Hafan