Yn gryno, rydym yn gweithio gyda mudiadau cymwys, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd cymwys, ac sy’n dymuno gwneud mwy gyda thechnoleg ddigidol.
Grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol
Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol sydd wedi eu lleoli yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru neu sy’n gweithio gyda’r bobl yn y cymunedau hynny. Cliciwch yma i lwytho rhestr lawn o ardaloedd cymwys i lawr.
Os oes arnoch eisiau cymorth technegol ar gyfer eich grŵp, y rhestr hon yw ein hunig feini prawf a bydd ein tîm ‘Cylchredwyr Technoleg‘ yn falch o roi cymorth wyneb yn wyneb i chi neu drwy gyfrwng ein llinell gymorth.
Os ydych chi’n dymuno cyflwyno prosiect sy’n mynd i helpu pobl i wneud gwell defnydd o dechnoleg, bydd angen i ni gael gwybod a yw'n cyd-fynd ag amcanion ein prosiect ac a oes ganddo ffocws clir ar dechnoleg ddigidol. Rydym yn croesawu unrhyw syniadau, ond yn enwedig y rheini a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n cael eu gadael ar y cyrion fwyaf yn y gymdeithas. Bydd ein Broceriaid Cymunedol yn falch o gael sgwrs gyda chi am eich syniad. Mae croeso i chi ein ffonio ar 0845 474 8282.
Mentrau Cymdeithasol
Rydym yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol yn ardaloedd Cydgyfeirio Cymru (Gogledd Orllewin Cymru, De Orllewin Cymru a’r Cymoedd).
Mae Mentrau Cymdeithasol yn fusnesau sy’n ymwneud â rhyw fath o fasnachu ond sy’n cefnogi pwrpas cymdeithasol lle mae'r holl elw'n cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu yn y gymuned – mae hyn yn cynnwys mentrau cydweithredol, undebau credyd, busnesau cymunedol, cwmnïau cymdeithasol ac ymddiriedolaethau datblygu.
Os ydych yn dymuno defnyddio technoleg ddigidol i gryfhau eich busnes neu i'w helpu i dyfu, byddai ein Swyddogion Cefnogi Mentrau Cymdeithasol yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi ein ffonio ar 0845 474 8282.